This is the Trace Id: 5e3c4f5b2de46c270bc8f253246420ba
Sgipio i'r prif gynnwys Azure Copilot Windows Surface XBOX Outlook Accessories Microsoft AI Microsoft Security Azure Dynamics 365 Microsoft 365 for business Microsoft Power Platform Windows 365 Developer Center Documentation Microsoft Learn Microsoft Tech Community Microsoft Marketplace Visual Studio Software companies View Sitemap

Microsoft Office Language Interface Pack 2010 – Cymraeg

Mae Microsoft Office Language Interface Pack 2010 – Cymraeg yn rhoi rhyngwyneb defnyddiwr Cymraeg ar gyfer nifer o raglenni Microsoft Office 2010.

Pwysig! Bydd dewis iaith isod yn newid cynnwys y dudalen gyflawn i'r iaith honno yn ddeinamig.

  • Fersiwn:

    1

    Dyddiad Cyhoeddi:

    16/2/2024

    Enw'r ffeil:

    LanguageInterfacePack-x86-cy-gb.exe

    LanguageInterfacePack-x64-cy-gb.exe

    O14LipHelp.chm

    Maint Ffeil:

    16.3 MB

    17.8 MB

    205.3 KB

    Mae Microsoft Office Language Interface Pack 2010 – Cymraeg yn rhoi rhyngwyneb defnyddiwr Cymraeg ar gyfer:
    • Microsoft Office Excel 2010

    • Microsoft Office OneNote 2010

    • Microsoft Office Outlook 2010

    • Microsoft Office PowerPoint 2010

    • Microsoft Office Word 2010
  • Systemau Gweithredu sy'n cael eu Cefnogi

    Windows 7, Windows Vista, Windows XP Service Pack 2

    • Rhaid cael y meddalwedd canlynol: Unrhyw gyfres neu gopi annibynnol o Microsoft Office 2010 sy'n cynnwys un neu fwy o'r rhaglenni canlynol: Excel, OneNote, Outlook, PowerPoint neu Word.
    • Rhaid cael hyn o le ar y ddisg: Ar ben y lle ar y ddisg sy'n cael ei ddefnyddio gan y rhaglenni Office 2010 sydd wedi'u gosod ar hyn o bryd, rhaid cael 20 megabeit (MB) o le gwag ar y ddisg galed.
  • I osod hwn:
    1. Llwythwch y ffeil LanguageInterfacePack.exe i lawr drwy glicio'r botwm Llwytho i Lawr (uchod) a chadw'r ffeil ar eich disg galed.
    2. Dwbl-gliciwch y ffeil LanguageInterfacePack.exe ar eich disg galed i ddechrau'r rhaglen Gosod.
    3. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin i orffen gosod.
    4. Ar ôl gosod, bydd y ffeil gwybodaeth ar gyfer eich Pecyn Rhyngwyneb Iaith Microsoft Office 2010 ar gael yn C:\Program Files\Common Files\microsoft shared\OFFICE14\LCID\LIPread.htm
    5. Does dim modd uwchraddio Office 2007 gyda Phecyn Rhyngwyneb Iaith Office 2007 na fersiwn cynharach i Office 2010 gyda Phecyn Rhyngwyneb Iaith 2010. Os ydych chi am uwchraddio o Office 2007 i Office 2010 gyda Phecyn Rhyngwyneb Iaith Office 2010 dylech chi:
      • Dadosod Office 2007 Language Interface Pack
      • Rhedeg rhaglen gosod Office 2010 a dewis uwchraddio.
      • Ar ôl gorffen gosod Office 2010, gosodwch a ffurfweddu Office 2010 Language Interface Pack


      • Ysgogi eich cynnyrch Office:
      • Os ydych chi'n cael trafferth yn darllen y Cod Gosod i gyd yn y blwch deialog "Microsoft Office Activation Wizard", neu dydy'r cod gosod ddim yn ymddangos yn iawn wrth ddefnyddio eich Microsoft® Office Language Interface Pack 2010, canslwch y dewin a newid i'ch cynnyrch Saesneg er mwyn ysgogi eich cynnyrch Microsoft Office.


    Cyfarwyddiadau ar gyfer ei ddefnyddio:

    I newid Rhyngwyneb y Defnyddiwr i iaith Microsoft Office Language Interface Pack 2010– Cymraeg, dilynwch y camau hyn:

    1. Lansiwch Dewisiadau Iaith Microsoft Office 2010 o'r ddewislen Cychwyn\Pob Rhaglen\Microsoft Office\Offer Microsoft Office .
    2. Dan Dewis Iaith y Dangosiad a Help, dan Iaith y Dangosiad dewiswch iaith a chlicio'r botwm Rhagosod .
    3. Dan Dewis Ieithoedd Golygu, dewiswch yr iaith a chlicio'r botwm Rhagosod .
    4. Cliciwch y botwm Iawn .

    Bydd y gosodiadau iaith rydych chi wedi'u dewis yn dod i rym y tro nesaf byddwch chi'n cychwyn rhaglenni Office.
    Cofiwch: Does dim modd newid Help i iaith Microsoft Office Language Interface Pack 2010– Cymraeg. Bydd Help bob amser yn yr iaith sylfaen.
    Gosodwch eich help yn y cwymprestr i'r iaith sylfaen bob tro.

    I dynnu hwn:
      Dilynwch y camau hyn gyda Windows XP Home neu Professional:
    1. Caewch bob rhaglen.
    2. Dwbl-gliciwch yr eicon Ychwanegu neu Dynnu Rhaglenni Ym Mhanel Rheoli Windows.
    3. Cliciwch Microsoft Office Language Interface Pack 2010 yn y blwch Rhaglenni sydd wedi'u gosod ar hyn o bryd, wedyn clicio'r botwm Tynnu .
    4. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.

      Dilynwch y camau hyn ar Windows Vista neu Windows 7:
    1. Caewch pob rhaglen.
    2. Dwbl-gliciwch yr eicon Rhaglenni a Nodweddion ym Mhanel Rheoli Windows.
    3. Yn y dewis Dadosod neu Newid Rhaglen, cliciwch Microsoft Office Language Interface Pack 2010–Cymraeg yn y blwch Rhaglenni wedi'u gosod ar hyn o bryd, dewiswch Dadosod .
    4. Dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrin.



    Os allwch chi ddim gweld cynnwys y ffeil CHM ar ôl ei llwytho i lawr, gallwch ddilyn y camau canlynol a fydd yn eich galluogi i weld y cynnwys :
    1. Agorwch y ffolder lle roeddech chi wedi llwytho'r ffeil CHM i lawr.
    2. De-gliciwch ar y CHM ac o'r ddewislen a fydd yn ymddangos, dewiswch Priodweddau.
    3. Dan y tab Cyffredinol, cliciwch y botwm Dadrwystro ac wedyn clicio'r botwm Iawn.
    4. Dwbl-gliciwch ar y ffeil CHM a byddwch chi nawr yn gallu gweld ei chynnwys.