This is the Trace Id: 3e5e5a0ea49c055dc93bc161cd1180c6
Sgipio i'r prif gynnwys Azure Copilot Windows Surface XBOX Outlook Accessories Microsoft AI Microsoft Security Azure Dynamics 365 Microsoft 365 for business Microsoft Power Platform Windows 365 Developer Center Documentation Microsoft Learn Microsoft Tech Community Microsoft Marketplace Visual Studio Software companies View Sitemap

Pecynnau Iaith ar gyfer SharePoint Server 2019

Mae pecynnau iaith yn galluogi creu safleoedd a chasgliad o safleoedd mewn sawl iaith heb orfod gosod SharePoint Server 2019 ar wahân.

Pwysig! Bydd dewis iaith isod yn newid cynnwys y dudalen gyflawn i'r iaith honno yn ddeinamig.

Llwytho i lawr
  • Fersiwn:

    16.0.10337.12109

    Dyddiad Cyhoeddi:

    12/8/2021

    Enw'r ffeil:

    serverlanguagepack.exe

    Maint Ffeil:

    56.9 MB

    Mae pecynnau iaith yn galluogi creu safleoedd a chasgliad o safleoedd mewn sawl iaith heb orfod gosod SharePoint Server 2019 ar wahân. Mae modd gosod sawl pecyn iaith ar yr un gweinydd. Fydd gosod Pecyn Iaith ddim yn newid iaith y cynnyrch Gweinydd Microsoft sydd wedi'i osod, nac iaith y nodweddion gweinyddol.

    Nodyn: Does dim angen i chi lwytho pecyn iaith i lawr ar gyfer yr iaith rydych wedi'i gosod. Diben y pecynnau iaith hyn yw helpu i greu ieithoedd ychwanegol.
  • Systemau Gweithredu sy'n cael eu Cefnogi

    Windows Server 2019, Windows Server 2016, Windows Server 2022

    Mae'r pecyn hwn yn gweithio gyda'r rhaglenni canlynol:
  • I gychwyn llwytho i lawr:
    1. Cliciwch y botwm Llwytho i lawr.
    2. Ticiwch y blwch ar gyfer yr iaith osod o'ch dewis o'r dewisiadau sydd ar gael.
    3. Cliciwch Nesaf.
    4. Cliciwch Cadw i gopïo rhaglen osod y pecyn iaith ar eich cyfrifiadur.

    I osod y Pecyn Iaith ar gyfer SharePoint Server 2019:
    1. Rhedwch raglen osod y pecyn iaith.
    2. Ar y dudalen Darllen Telerau Trwydded Meddalwedd Microsoft, tarwch olwg dros y telerau, ticio’r blwch Rwy'n derbyn telerau'r cytundeb hwn, ac wedyn cliciwch Bwrw ymlaen.
    3. Mae'r dewin gosod yn rhedeg ac yn gosod y pecyn iaith.
    4. Rhedwch y Dewin Ffurfweddu Cynnyrch SharePoint 2019, gan ddefnyddio'r gosodiadau diofyn.

    Nodyn:Os nad ydych chi’n rhedeg y Dewin Ffurfweddu Cynnyrch SharePoint 2019 ar ôl i chi osod pecyn iaith, fydd y pecyn iaith ddim yn cael ei osod yn iawn.

    I redeg y Dewin Ffurfweddu Cynnyrch SharePoint 2019:
    1. Cliciwch Cychwyn, cliciwch Cynnyrch Microsoft SharePoint 2019, ac wedyn cliciwch Dewin Ffurfweddu Cynnyrch SharePoint 2019.
    2. Ar y dudalen Croeso i Gynnyrch SharePoint, cliciwch Nesaf.
    3. Cliciwch Iawn yn y blwch deialog sy’n eich rhybuddio y bydd angen ailgychwyn rhai gwasanaethau wrth ffurfweddu.
    4. Os bydd y dudalen Addasu Gosodiadau Fferm y Gweinydd yn ymddangos, cliciwch Peidio datgysylltu o fferm y gweinydd hwn, ac wedyn cliciwch Nesaf.
    5. Os bydd y dudalen Addasu Gosodiadau Rhaglen Gwe Gweinyddu Canolog SharePoint yn ymddangos, peidiwch addasu unrhyw osodiadau diofyn, ac wedyn cliciwch Nesaf.
    6. Os bydd y dudalen Cwblhau’r Dewin Ffurfweddu Cynnyrch SharePoint yn ymddangos, cliciwch Nesaf.
    7. Ar y dudalen Wedi Llwyddo i Ffurfweddu, cliciwch Gorffen.

    Cyfarwyddiadau defnyddio:

    Tarwch olwg ar Gosod neu ddadosod pecynnau iaith ar gyfer SharePoint Server 2019 ar gyfer cyfarwyddiadau gosod manwl.

    I dynnu pecyn iaith ar gyfer SharePoint Server 2019:
    1. Ar y dudalen Cychwyn, cliciwch Panel Rheoli.
    2. Cliciwch Dadosod rhaglen.
    3. Yn y rhestr o raglenni sydd wedi'u gosod ar hyn o bryd, dewiswch Pecyn Iaith ar gyfer SharePoint a Project Server 2019 – [Iaith], ac wedyn cliciwch Dadosod .
    4. Cliciwch Iawn i gadarnhau eich bod am dynnu'r rhaglen.
    5. Cliciwch Iawn yn y blwch deialog sy’n eich rhybuddio y gallai hyn arwain at golli rhywfaint o swyddogaethau ar y safleoedd sy’n dibynnu ar y pecyn iaith hwn.
    6. Ar ôl llwyddo i ddadosod y pecyn iaith, cliciwch Cau.