This is the Trace Id: ca4a792ecde6a1199e2a417df7105f90
Sgipio i'r prif gynnwys Azure Copilot Windows Surface XBOX Outlook Accessories Microsoft AI Microsoft Security Azure Dynamics 365 Microsoft 365 for business Microsoft Power Platform Windows 365 Developer Center Documentation Microsoft Learn Microsoft Tech Community Microsoft Marketplace Visual Studio Software companies View Sitemap

Pecyn Rhyngwyneb Iaith Windows Vista

Mae Pecyn Rhyngwyneb Iaith Windows Vista yn rhoi Rhyngwyneb Defnyddiwr sydd wedi'i gyfieithu'n rhannol o ardaloedd mwyaf poblogaidd Windows Vista.

Pwysig! Bydd dewis iaith isod yn newid cynnwys y dudalen gyflawn i'r iaith honno yn ddeinamig.

Llwytho i lawr
  • Fersiwn:

    1.0

    Dyddiad Cyhoeddi:

    15/10/2023

    Enw'r ffeil:

    LIP_cy-GB.mlc

    Maint Ffeil:

    2.4 MB

    Mae Pecyn Rhyngwyneb Iaith Windows Vista ar gyfer Windows Vista yn rhoi fersiwn sydd wedi'i gyfieithu'n rhannol o ardaloedd mwyaf poblogaidd Windows. Ar ôl gosod y Pecyn Rhyngwyneb Iaith, bydd y testun yn y dewiniaid, y blychau deialog, y dewislenni, y pynciau Help a Chymorth ac eitemau eraill yn y rhyngwyneb defnyddiwr yn ymddangos yn iaith y Pecyn Rhyngwyneb Iaith. Bydd y testun nad yw wedi'i gyfieithu'n ymddangos yn iaith sylfaen Windows Vista. Er enghraifft, os oeddech wedi prynu fersiwn Saesneg o Windows Vista ac wedi gosod Pecyn Rhyngwyneb Iaith Cymraeg, bydd rhywfaint o destun yn dal i fod yn Saesneg. Gallwch osod mwy nag un Pecyn Rhyngwyneb Iaith, er mwyn i bawb sy'n defnyddio'r cyfrifiadur allu gweld y rhyngwyneb defnyddiwr yn eu dewis iaith.
  • Systemau Gweithredu sy'n cael eu Cefnogi

    Windows Vista

    • Microsoft Windows Vista
    • Rhyngwyneb defnyddiwr yn yr iaith/ieithoedd canlynol: Saesneg, Sbaeneg, Ffrangeg, Rwsieg, Serbeg (Lladin), Croateg, Norwyeg (Bokmål)
    • 4.63 Mb o le rhydd ar gyfer llwytho i lawr
    • 15 Mb o le rhydd ar gyfer gosod

    Llwyfannau a gefnogir: Dim ond gyda fersiynau 32-did o Windows Vista y gall Pecynnau Rhyngwyneb Iaith weithio a does dim modd eu gosod ar fersiynau blaenorol o Windows nac ar fersiynau 64-did o Windows Vista.
  • -

      -

    1. Cliciwch y botwm
      Llwytho i lawr
      ar y dudalen hon i ddechrau llwytho i lawr, neu gallwch ddewis iaith arall o'r rhestr a chlicio
      Mynd
      .

    2. Gwnewch un o'r canlynol:

    3. -

        -

      • I ddechrau gosod ar unwaith, cliciwch
        Agor
        neu
        Rhedeg y rhaglen hon o'i lleoliad cyfredol
        .

      • -

      • I gopio'r ffeil rydych wedi ei llwytho i lawr i'r cyfrifiadur ar gyfer ei osod rhywbryd eto, cliciwch
        Cadw
        neu
        Cadw'r rhaglen hon ar ddisg
        .