This is the Trace Id: 18e7ae7de3832244d850f82602f635aa
Sgipio i'r prif gynnwys Azure Copilot Windows Surface XBOX Outlook Accessories Microsoft AI Microsoft Security Azure Dynamics 365 Microsoft 365 for business Microsoft Power Platform Windows 365 Developer Center Documentation Microsoft Learn Microsoft Tech Community Microsoft Marketplace Visual Studio Software companies View Sitemap

Pecynnau Iaith ar gyfer SharePoint Foundation 2013

Mae pecynnau iaith yn caniatáu ar gyfer creu safleoedd a chasgliad o safleoedd mewn sawl iaith heb fod angen gosod gwahanol fersiynau o SharePoint Foundation 2013 ar wahân

Pwysig! Bydd dewis iaith isod yn newid cynnwys y dudalen gyflawn i'r iaith honno yn ddeinamig.

Llwytho i lawr
  • Fersiwn:

    15.0.4569.1506

    Dyddiad Cyhoeddi:

    17/7/2019

    Enw'r ffeil:

    spf_lpk_SP1_x64_cy-gb.img

    Maint Ffeil:

    58.0 MB

    Mae pecynnau iaith yn caniatáu ar gyfer creu safleoedd a chasgliad o safleoedd mewn sawl iaith heb fod angen gosod gwahanol fersiynau o SharePoint Foundation 2013 ar wahân. Mae modd gosod sawl pecyn iaith ar yr un gweinydd. Fydd rhoi Pecyn Iaith ar waith ddim yn newid iaith y cynnyrch gweinydd Microsoft sydd wedi'i osod, na iaith y nodweddion gweinyddol.

    Nodiadau
    • Does dim angen i chi lwytho pecyn iaith i lawr ar gyfer yr iaith rydych chi wedi'i gosod. Mae'r pecynnau iaith hyn yn bodoli er mwyn gallu delio â chreu ieithoedd ychwanegol.
  • Systemau Gweithredu sy'n cael eu Cefnogi

    Windows Server 2008 R2 SP1, Windows Server 2012, Windows Server 2012 R2


    • Mae modd llwytho'r eitemau hyn i lawr gan ddefnyddio'r rhaglenni canlynol:

      • Microsoft SharePoint Foundation 2013


  • I osod yr eitemau i'w llwytho i lawr hyn:

    Gosod pecyn iaith:
    1. Llwythwch y ffeil i lawr drwy glicio'r botwm Llwytho i Lawr (uchod) a chadw'r ffeil yn eich disg galed.
    2. Rhowch y rhaglen gosod ar waith.
    3. Ar y dudalen Darllen Telerau Trwydded Meddalwedd Microsoft, adolygwch y telerau, dewis y blwch ticio Rwy'n derbyn telerau'r cytundeb hwn, a chlicio Bwrw ymlaen.
    4. Bydd y dewin gosod yn rhoi'r pecyn iaith ar waith ac yn ei osod.
    5. Rhowch y Dewin Ffurfweddu Technolegau a Chynnyrch SharePoint ar waith eto, drwy ddefnyddio'r gosodiadau diofyn.
    Nodyn: Os fyddwch chi ddim yn rhoi'r Dewin Ffurfweddu Technolegau a Chynnyrch SharePoint ar waith ar ôl i chi osod pecyn iaith, fydd y pecyn iaith ddim yn cael ei osod yn iawn.

    Rhoi'r Dewin Ffurfweddu Technolegau a Chynnyrch SharePoint ar waith eto:
    1. Cliciwch Cychwyn, pwyntio at Pob Rhaglen, pwyntio at Cynnyrch Microsoft SharePoint 2013, a chlicio Dewin Ffurfweddu Technolegau a Chynnyrch SharePoint.
    2. Ar y dudalen Croeso i Dechnolegau a Chynnyrch SharePoint, cliciwch Nesaf.
    3. Cliciwch Iawn yn y blwch deialog sy'n eich rhybuddio efallai fydd angen ailgychwyn rhai gwasanaethau yn ystod y broses ffurfweddu.
    4. Ar y dudalen Addasu Gosodiadau Fferm Gweinydd, cliciwch Peidio â datgysylltu o'r fferm gweinydd hon, a chlicio Nesaf.
    5. Os bydd y dudalen Addasu Gosodiadau Gweinyddiaeth Gwe Gweinyddiaeth Ganolog SharePoint yn ymddangos, peidiwch ag addasu unrhyw rai o'r gosodiadau diofyn, a chliciwch Nesaf.
    6. Ar y dudalen Cwblhau'r Dewin Ffurfweddu Technolegau a Chynnyrch SharePoint, cliciwch Nesaf.
    7. Ar y dudalen Wedi Llwyddo i Ffurfweddu, cliciwch Gorffen.
    Cyfarwyddiadau defnyddio:

    I gael gwybodaeth ynglŷn â defnyddio pecynnau iaith, ewch i'r safle Gosod neu ddadosod pecynnau iaith ar gyfer safle SharePoint 2013.

    I dynnu'r eitemau wedi'u llwytho i lawr hyn:
    1. Ar y ddewislen Cychwyn, pwyntiwch at Gosodiadau a chlicio Panel Rheoli.
    2. Dwbl-gliciwch Ychwanegu/Tynnu Rhaglenni.
    3. Yn y rhestr o raglenni sydd wedi'u gosod ar hyn o bryd, dewiswch yr eitem sydd wedi'i gosod a chlicio Tynnu neu Ychwanegu/Tynnu. Os bydd blwch deialog yn ymddangos, dilynwch y cyfarwyddiadau i dynnu'r rhaglen.
    4. Cliciwch Ie neu Iawn i gadarnhau eich bod am dynnu'r rhaglen.