This is the Trace Id: 6adee249b49a910c22af2408a3a3b7fc
Sgipio i'r prif gynnwys Azure Copilot Windows Surface XBOX Outlook Accessories Microsoft AI Microsoft Security Azure Dynamics 365 Microsoft 365 for business Microsoft Power Platform Windows 365 Developer Center Documentation Microsoft Learn Microsoft Tech Community Microsoft Marketplace Visual Studio Software companies View Sitemap

Pecynnau Iaith ar gyfer SharePoint Server 2013 - [Cymraeg]

Mae pecynnau iaith yn galluogi creu safleoedd a chasgliad o safleoedd mewn sawl iaith heb orfod gosod SharePoint Server 2013 ar wahân

Pwysig! Bydd dewis iaith isod yn newid cynnwys y dudalen gyflawn i'r iaith honno yn ddeinamig.

Llwytho i lawr
  • Fersiwn:

    15.0.4569.1506

    Dyddiad Cyhoeddi:

    15/6/2021

    Enw'r ffeil:

    ServerLanguagePack_x64_cy-gb.img

    Maint Ffeil:

    99.4 MB

    Mae pecynnau iaith yn galluogi creu safleoedd a chasgliad o safleoedd mewn sawl iaith heb orfod gosod Rhagolwg SharePoint Server 2013 ar wahân. Mae modd gosod sawl pecyn iaith ar yr un gweinydd. Fydd gosod Pecyn Iaith ddim yn newid iaith y cynnyrch gweinydd Microsoft sydd wedi'i osod, nac iaith y nodweddion gweinyddol.

    Nodiadau
    • Does dim angen i chi lwytho pecyn iaith i lawr ar gyfer yr iaith rydych wedi'i gosod, diben y pecynnau iaith hyn yw helpu i greu ieithoedd ychwanegol.
  • Systemau Gweithredu sy'n cael eu Cefnogi

    Windows Server 2008 R2 SP1, Windows Server 2012, Windows Server 2012 R2


    • Mae'r eitem hon sydd wedi'i llwytho i lawr yn gweithio gyda'r rhaglenni canlynol:

      • Microsoft SharePoint Server 2013
      • Microsoft Project Server 2013


  • I osod yr eitem hon sydd wedi'i llwytho i lawr:

    Gosod pecyn iaith:
    1. Llwythwch y ffeil i lawr drwy glicio'r botwm Llwytho i lawr (uchod) a chadw'r ffeil ar eich disg galed.
    2. Rhedwch y rhaglen gosod.
    3. Ar y dudalen Darllen Telerau Trwyddedau Meddalwedd Microsoft, darllenwch y telerau, ticio'r blwch Rwy'n derbyn telerau'r cytundeb hwn, ac wedyn clicio Bwrw ymlaen.
    4. Mae'r dewin gosod yn rhedeg ac yn gosod y pecyn iaith.
    5. Rhedwch y Dewin Ffurfweddu Cynnyrch a Thechnolegau SharePoint eto gan ddefnyddio'r gosodiadau diofyn.
    Nodyn: Os na fyddwch chi'n rhedeg y Dewin Ffurfweddu Cynnyrch a Thechnolegau SharePoint ar ôl i chi osod pecyn iaith, fydd y pecyn iaith ddim wedi'i osod yn iawn.

    Rhedwch y Dewin Ffurfweddu Cynnyrch a Thechnolegau SharePoint eto:
    1. Cliciwch Cychwyn, pwyntio at Pob rhaglen, pwyntio at Cynnyrch Microsoft SharePoint 2013, ac wedyn clicio Dewin Ffurfweddu Cynnyrch a Thechnolegau SharePoint.
    2. Ar y dudalen Croeso i Gynnyrch a Thechnolegau SharePoint, cliciwch Nesaf.
    3. Cliciwch Iawn yn y blwch deialog sy'n eich rhybuddio y bydd angen ailgychwyn rhai gwasanaethau wrth ffurfweddu.
    4. Ar y dudalen Addasu Gosodiadau Fferm Gweinydd, cliciwch Peidio â datgysylltu o'r fferm hon o weinyddion, ac wedyn clicio Nesaf.
    5. Os bydd y dudalen Addasu Gosodiadau Rhaglen Gwe Gweinyddiaeth Ganolog SharePoint yn ymddangos, peidiwch ag addasu dim o'r gosodiadau diofyn, ac wedyn clicio Nesaf.
    6. Ar ôl cwblhau tudalen y Dewin Ffurfweddu Cynnyrch a Thechnolegau SharePoint, cliciwch Nesaf.
    7. Ar y dudalen Wedi llwyddo i ffurfweddu, cliciwch Gorffen.
    Cyfarwyddiadau defnyddio:

    I gael gwybodaeth am sut mae defnyddio hwn, ewch i'r safle Gosod neu ddadosod pecynnau iaith ar gyfer SharePoint 2013.

    I dynnu'r eitem hon sydd wedi'i llwytho i lawr:
    1. Ar y ddewislen Cychwyn, pwyntiwch at Gosodiadau ac wedyn clicio Panel Rheoli.
    2. Dwbl-gliciwch Ychwanegu/Tynnu Rhaglenni.
    3. Yn y rhestr o raglenni sydd wedi'u gosod ar hyn o bryd, dewiswch yr eitem sydd wedi'i gosod ac wedyn clicio Tynnu neu Ychwanegu/Tynnu. Os bydd blwch deialog yn ymddangos, dilynwch y cyfarwyddiadau i dynnu'r rhaglen.
    4. Cliciwch Iawn neu OK i gadarnhau eich bod am dynnu'r rhaglen.